Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

 

 

Dyddiad:       02 Tachwedd 2016

 

Amser:           10.45 – 12.15

 

Teitl:               Papur tystiolaeth – Cyllideb Ddrafft 2017-18

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

 

 

Diben

 

1.    Mae’r papur hwn yn darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y cynigion ar yr Amgylchedd a Materion Gwledig (Prif Grŵp Gwariant) a amlinellir yng Nghyllideb Ddrafft 2017-18, a gyhoeddwyd ar 18 Hydref. Mae hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y meysydd sydd o ddiddordeb penodol i’r Pwyllgor. 

 

 

Cefndir

 

2.    Mae cyllideb ddrafft 2017-18 yn cyflwyno cynllun blwyddyn ar gyfer buddsoddiad refeniw a chynllun pedair blynedd ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yn y ddarpariaeth ar gyfer yr Amgylchedd yng Nghymru. Mae’r tablau isod yn rhoi trosolwg o Brif Grŵp Gwariant (MEG) yr Amgylchedd a Materion Gwledig fel y’i cyhoeddwyd yng Nghyllideb Ddrafft 2017-2018. 

 

3.    Crynhoir ffigurau’r gyllideb ddrafft fel a ganlyn:

 

 

 

MEG yr Amgylchedd a Materion Gwledig

 

 

 

Crynodeb o’r MEG

Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

 

£m

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2017-18
£m

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19
£m

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2019-20

£m

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2020-21
£m

Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) Adnoddau

278.600

284.597

 

 

 

DEL Cyfalaf

107.300

83.772

61.241

56.754

52.878

Cyfanswm DEL

385.900

368.369

61.241

56.754

52.878

Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) Adnoddau

2.400

2.400

 

 

 

AME Cyfalaf

0.00

0.00

 

 

 

Cyfanswm AME

2.400

2.400

 

 

 

Cyfanswm – MEG yr Amgylchedd a Materion Gwledig

388.300

370.769

 

 

 

 

 

4.    Er mwyn gallu cymharu cyllidebau 2016-17 â chyllidebau drafft 2017-18,  bydd angen diwygio ffigurau’r Gyllideb Atodol Gyntaf uwchben ar gyfer 2016-2017, er mwyn dileu unrhyw ddyraniadau untro a chynnwys unrhyw drosglwyddiadau parhaol rhwng y Prif Grwpiau

 

5.    Mae’r tabl a ganlyn yn cynnwys manylion y cysoniadau rhwng cyllideb atodol gyntaf 2016-17 a gyhoeddwyd a chyllideb llinell sylfaen 2016-17 wedi’i haddasu.

 

DEL Refeniw

£m

Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

278.600

Dirymiad y cyllid canlyniadol a ddygwyd ymlaen o 2015-16

(2,300)

Cyfoeth Naturiol Cymru - yr ad-daliad Buddsoddi i Arbed wedi’i gwblhau

1.783

Trosglwyddiad rheolaidd o Economi a Seilwaith i Ynni

0.294

2016-17 Llinell Sylfaen Refeniw wedi’i haddasu (er cymhariaeth)

278.377

DEL Cyfalaf

£m

Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

107.300

Ailddyrannu'r Gyllideb Gyfalaf Gyffredinol i’r MEG Llywodraeth Leol

(13.100)

Dyraniad un flwyddyn ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Afonydd a Chamlesi

(2.500)

Llinell Sylfaen Cyfalaf wedi’i Haddasu 2016-17 (ar gyfer cymharu)

91.700

 

 

Cyllideb Ddrafft 2017-18

 

6.    Yng Nghyllideb Ddrafft 2017-18, mae cyllideb refeniw yr Amgylchedd a Materion Gwledig (gan gynnwys cyllideb heb fod yn arian parod) wedi cynyddu £6.22m o’r gyllideb llinell sylfaen refeniw wedi’i haddasu. Mae hyn yn cynnwys gostyngiad o £2.997m mewn perthynas â’r rhaglen caffael Gwastraff, sy’n addasiad i’r cyllid wrth gefn ar sail cyllid blynyddoedd blaenorol; a chynnydd o £9.746m yn y ddarpariaeth o’r dyraniad nad yw’n arian parod i dalu costau dibrisiant.

 

7.    Ceir gofyniad hefyd i wneud arbedion rheolaidd o £0.529m y cytunodd y Cabinet arno ar 20 Medi. Cafwyd gostyngiad bach mewn refeniw yn y Gyllideb ar gyfer Diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (BEL 2789), nad oes angen cyllideb refeniw arno yn y dyfodol. Felly, roedd modd imi ddychwelyd y £0.529m yn llawn i’r gronfa wrth gefn heb orfod lleihau’r gyllideb ar gyfer unrhyw un o’m rhaglenni nac effeithio arnynt.

 

 

DEL Refeniw

£m

Llinell sylfaen refeniw wedi’i haddasu 2016/17

278.377

Addasiad i’r Rhaglen Caffael Gwastraff

(2.997)

Arbedion MEG sy’n Ofynnol (dosrannwyd i Ddiwygio PAC)

(0.529)

Adnodd heb fod yn arian parod a ddyrannwyd

9.746

Cyllideb refeniw ddrafft 2017-18

284.597

 

 

8.    Fel rhan o’m adolygiad cyllidebu, rwyf wedi ailddyrannu a blaenoriaethu nifer o gyllidebau i sicrhau’r cydbwysedd cywir o fuddsoddiad ar draws fy mhortffolio i gefnogi blaenoriaethau’r Rhaglen Lywodraethu. Nodir y rhain isod.

 

Ad-drefnu cyllidebau refeniw o fewn y MEG (fesul Cam Gweithredu)

£m

Datblygu a gweithredu polisi newid hinsawdd, effeithlonrwydd ynni, Twf Gwyrdd a Diogelu’r Amgylchedd: cyllideb ychwanegol wedi’i dyrannu i dalu costau’r arolwg o Gyflwr Tai.

0.397

Datblygu a gweithredu polisi newid hinsawdd, effeithiolrwydd ynni, Twf Gwyrdd a Diogelu’r Amgylchedd: cyllideb ychwanegol wedi’i dyrannu i liniaru’r pwysau ar Bartneriaethau Lleol.

0.636

Datblygu a gweithredu polisi a rhaglenni trosfwaol ar Amaeth, Bwyd a Materion Morol: cyllid ychwanegol ar gyfer y Rhaglen Monitro Adnoddau Naturiol (NRMP) a’r Ddeddf Tiroedd Comin yn ogystal ag ad-drefnu i adlewyrchu’r rhagolygon cyfredol ar ddatblygiadau Rhif y Daliadau Plwyf Sirol (CPH) ac Adnabod Electronig (EID) Cymru. 

1.834

Datblygu a rheoli moroedd, pysgodfeydd a dyframaeth yng Nghymru gan gynnwys gorfodi mewn perthynas â Physgodfeydd Cymru: cyllideb ychwanegol wedi’i dyrannu i gwmpasu’r rhagolygon diwygiedig ar gyfer Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop a goruchwylio cynllunio morol. 

0.430

Datblygu a marchnata Bwyd a Diod o Gymru: cyllideb ychwanegol wedi’i dyrannu i ariannu’r prosiect Menter Ymchwil Busnesau Bach (MYBB), a fydd yn datblygu gwaith ymchwil ar Fwyd sy’n Gysylltiedig ag Iechyd.

0.200

Rheoli a gweithredu’r Strategaeth Wastraff a chaffael gwastraff: ail-alinio i liniaru pwysau mewn meysydd eraill.

(2.000)

Llunio polisïau ar warchod natur a fforestydd a gwella amgylcheddau lleol: ad-drefnu i liniaru pwysau mewn meysydd eraill.

(0.736)

Cynllunio a Rheoleiddio: ad-drefnu i liniaru pwysau mewn meysydd eraill.

(0.579)

Gweinyddu’r PAC a gwneud taliadau yn unol â rheolau’r UE a Llywodraeth Cymru: ad-drefnu’r gyllideb wrth i’r rhaglen ddod i ben.

(0.182)

 

 

Dyraniadau Cyfalaf

 

9.    Cytunodd y Cabinet ym mis Medi i ddyrannu mwyafrif yr arian cyfalaf ar ddechrau’r cyfnod cynllunio, gan ddarparu sicrwydd a hyblygrwydd hirdymor er mwyn rheoli buddsoddiad y Llywodraeth yn unol â’i blaenoriaethau.

 

10. Roedd yn anochel y byddai gofynion cyfalaf ar draws y Llywodraeth yn fwy na’r arian cyfalaf sydd ar gael. Nid oes amheuaeth bod y setliad cyfalaf ar gyfer yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn heriol dros y pedair blynedd, a bu’n rhaid imi greu proffil fy rhaglen gyfalaf yn unol â’m blaenoriaethau. 

 

11. Yng Nghyllideb Ddrafft 2017-18, mae gostyngiad o £8 yng nghyllideb gyfalaf yr Amgylchedd a Materion Gwledig o gymharu â’r llinell sylfaen ddiwygiedig ar gyfer 2016-17. Nodir manylion y dyraniadau isod ar gyfer y Rhaglenni a ganlyn.

 

Dyraniadau DEL Cyfalaf

 

BEL

2017-18

£m

2018-19

£m

2019-20

£m

2020-21

£m

Tlodi Tanwydd (Arbed a NEST)

1270

19.000

20.180

19.000

15.000

Seilwaith Gwyrdd

New

3.612

3.205

3.289

7.975

Twf Gwyrdd

2809

7.000

5.000

0

2.000

Rheoli’r Perygl Llifogydd

2230

29.000

17.000

17.000

18.000

Gwastraff

2190

4.000

4.000

10.500

4.000

Cyfoeth Naturiol Cymru

2451

3.695

1.695

1.695

1.695

Tirwedd a Hamdden Awyr Agored

2490

1.000

0

0

0

Rhif y Daliad (CPH)

2861

0.570

0

0

0

EID Cymru

2862

0.320

0.321

0.120

0

Y Ddeddf Tiroedd Comin

2866

1.100

0.500

0.300

0.300

Diwygio’r PAC

2789

1.574

0

0

0

Rhaglen Datblygu Gwledig

2949

8.166

8.149

4.400

3.675

Pysgodfeydd a Moroedd Ewrop

2830

0.235

0.391

0.450

0.233

Gorfodi Morol

2870

4.500

0.800

0

0

Cyllideb Gyfalaf Ddrafft 2017-18

 

83.772

61.241

56.754

52.878

 

12. Lluniwyd proffil y cyllidebau cyfalaf i sicrhau’r canlylnol:

·         Mae’r rhaglen Nyth wedi’i chefnogi gyda £15m y flwyddyn i sicrhau cynaliadwyedd a gwerth am arian yn y Cynllun Tlodi Tanwydd hanfodol hwn.

·         Mae’r cynllun Arbed 3, a ariennir gan yr UE, wedi cael dyraniad o £12m o arian cyfatebol domestig (£4m y flwyddyn), sy’n sicrhau mai cyfanswm gwerth y cynllun yw £34m dros dymor y Llywodraeth.

·         Buddsoddiad o £7m mewn Arian Twf Gwyrdd yn 17/18 gyda Chymorth Trafodion Ariannol ychwanegol o £5m yn 18/19.

·         Llinell sylfaen Gwastraff o £4m dros y pedair blynedd i ariannu’r Rhaglen Newid Gydweithredol a’r Rhaglen Caffael Gwastraff. Mae £6.5m yn ychwanegol yn 2019/20 ar gyfer Cronfa Buddsoddi Cyfalaf yr Economi Gylchol, sef strategaeth gwastraff hirdymor.

·         Mae cyllidebau Cyfalaf Llifogydd wedi’u proffilio i sicrhau bod digon o arian cyfalaf ar gael ym mlwyddyn 1 i ariannu ymrwymiadau’r rhaglen gyfredol ac arian cyfalaf ar gyfer costau dylunio a datblygu ar gyfer cynlluniau a gaiff eu cyllido o dan y Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol (CRMP) sy’n werth £150m, a fydd yn gostwng dim ond pan fydd y rhaglen yn cael ei lansio yn 18/19.

·         Bydd y Seilwaith Gwyrdd hefyd yn cynnwys rhaglen Grant newydd yn ogystal â chyllid ar gyfer Llwybr yr Arfordir a rhaglen “LIFE” yr UE.

·         Cwblhau gofynion Diwygio’r PAC a TGCh o fewn Amaeth ar gyfer 2017/18 yn unig.

·         Cyllid Cyfalaf ar gyfer y Rhaglen Datblygu Gwledig a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF) yn unol â’r rhagolygon cyfredol.

·         Cyllid ar gyfer y Cronfeydd Data ar gyfer Rhif y Daliad, a phrosiectau EID Cymru, yn ogystal â datblygu’r Gofrestr Tir Comin ymhellach.

·         £2m yn ychwanegol yn 2017/18 ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru i liniaru pwysau cyfalaf fel ymdrin â P Ramorum (clefyd y llarwydd).

·         Cyllid ar gyfer Llongau Gorfodi Morol, prynu cerbydau Morol a Physgodfeydd newydd.

 

 

Y Rhaglen Lywodraethu

 

13. Mae fy holl gyllidebau wedi’u halinio ag ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu a gellir eu cyflawni o fewn y gyllideb sydd ar gael. Mater o flaenoriaethu’r gwaith o fewn y cyllidebau cyffredinol ydyw. Bydd hyn yn amlwg yn her a byddaf yn sicrhau fod fi a fy martneriaid cyflawni yn canolbwyntio ar gyflawni yn erbyn yr ymrwymiadau hyn.

 

14. Yn unol â’r Rhaglen Lywodraethu a gyhoeddwyd yn ddiweddar, rwy’n hyderus y bydd cyllideb fy mhortffolio yn cyfrannu at greu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy. Yn benodol:

 

 

·         Cymunedau gwledig llwyddiannus a chynaliadwy: Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau dyfodol ffyniannus ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru;

 

·         Yr Amgylchedd: Gwneud cynnydd tuag at ein nod o leihau allyriadau tŷ gwydr o leiaf 80% erbyn 2050 (sy’n ddyletswydd o dan Ddeddf Amgylchedd (Cymru)), buddsoddi yn y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer yr economi werdd, hyrwyddo twf gwyrdd ac arloesedd gwyrdd, parhau i wella dulliau ailgylchu a lleihau’r defnydd o dirlenwi, a pharhau i fuddsoddi mewn gwaith amddiffyn rhag llifogydd a chymryd camau pellach i wella’r gwaith o reoli dŵr yn ein hamgylchedd. 

 

15. Mae Newid yn yr Hinsawdd yn gyfrifoldeb i bob un o Weinidogion Cymru: mae pob adran yn cefnogi ac yn gweithio tuag at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwella cydnerthedd Cymru o ran effeithiau ar yr hinsawdd. O’r herwydd, ni ellir mesur yr union wariant. Fodd bynnag, mae nifer o feysydd yn fy mhortffolio yn cael effaith uniongyrchol ar gamau gweithredu’n ymwneud â’r hinsawdd, fel rheoli llifogydd (£51m), lleihau gwastraff (£76m) twf gwyrdd ac effeithiolrwydd ynni (£40m).

 

16. Mae effeithiolrwydd ynni yn ffactor pwysig o ran twf gwyrdd, swyddi, sgiliau a chadwyni cyflenwi; dyma’r ffordd fwyaf cost-effeithiol o gyflawni ein hymrwymiad i leihau allyriadau carbon; mae’n lleihau costau i fusnesau yn y sector cyhoeddus, a gall fynd i’r afael yn uniongyrchol â thlodi ynni a lleihau biliau ynni.

 

17. Mae cynnal y gyllideb ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn hanfodol er mwyn cynnal a meithrin ein cydnerthedd i wrthsefyll llifogydd a newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol. Yn ogystal â bod yn fuddsoddiad mewn asedau newydd sy’n hanfodol, mae hefyd yn gyllid ar gyfer cynnal a chadw ein hasedau presennol.

 

18.Mae tua 208,500 o eiddo yng Nghymru sy’n wynebu perygl yn sgil llifogydd o afonydd a’r môr, a 163,000 sy’n wynebu perygl yn sgil dŵr wyneb (mae rhai mewn perygl yn sgil sawl ffynhonnell). Er mwyn lleihau’r perygl hwn, ceir 513k o asedau llifogydd ledled Cymru (sy’n eiddo i Cyfoeth Naturiol Cymru yn unig) sy’n dod â budd i 74,000 o eiddo. 

 

19. Bydd fy nghyllideb yn sicrhau y bydd yr ymrwymiadau presennol ar gyfer cynlluniau arfordirol sydd eisoes ar waith, gan gynnwys cynlluniau Awdurdodau Lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru fel y rhai yn Llanelwy, Crindau, y Rhath, Trebefered a Phorthcawl, yn parhau i gael eu hariannu nes iddynt gael eu cwblhau.  Mae prosiectau mawr yn aml yn cymryd mwy na blwyddyn i’w cwblhau a gall fod amgylchiadau sy’n cyfyngu ar pryd y gellir gwneud y gwaith adeiladu, ac felly mae angen eu cyllido am nifer o flynyddoedd.

 

20. Lle mae cyllidebau traddodiadol yn lleihau, mae’n rhaid inni fod yn fwy arloesol yn y ffordd yr ydym yn ariannu ein rhaglenni cyfalaf. Mae’r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol yn gwneud hynny.

 

21. Mae’r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol (CRMP) yn enghraifft ragorol o gynnig gwario sydd wedi’i ddatblygu’n dda. Fe’i datblygwyd ar y cyd â’n rhanddeiliaid, gan gwmpasu'r arferion gorau o ran technegau rheoli rhaglenni a datblygu achosion busnes gan ddefnyddio strwythur llywodraethu priodol.

 

22. Mae CRMP yn cynrychioli ffordd newydd o ariannu buddsoddiad cyfalaf gwerth £150m ar gyfer y dyfodol i wella cydnerthedd yr arfordir. Rwy’n hyderus y bydd y rhaglen hon yn datblygu ymhen amser, i fuddsoddiad £50m y flwyddyn dros dair blynedd o 2018/19 ymlaen, gyda buddsoddiad cyfalaf gan Lywodraeth Cymru o ddim ond £5m o arian cyfalaf y flwyddyn ar gyfer datblygu prosiectau.

 

23. Mae Twf Gwyrdd yn llwybr o dwf economaidd sy’n defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy. Rydym yn datblygu opsiynau i gefnogi ac annog buddsoddi yn y seilwaith ynni ac adnoddau yng Nghymru. Mae’r opsiynau hyn yn cynnwys Twf Gwyrdd Cymru, cyllideb bosibl a fydd yn ganolbwynt i agenda Twf Gwyrdd flaenllaw Llywodraeth Cymru. Bydd yn dangos yn gyhoeddus ymrwymiad y Llywodraeth i ddatblygu cynaliadwy, cefnogi buddsoddiad gwyrdd, lleihau allyriadau carbon, a gwneud defnydd mwy effeithiol o’n hadnoddau naturiol.

 

24. Bydd Twf Gwyrdd Cymru yn creu capasiti adnewyddadwy ychwanegol sy’n cyfateb i o leiaf 10% o anghenion trydanol Cymru dros 20 mlynedd, a bydd yn dod â budd i economi a phobl Cymru drwy ddod â buddsoddiad ychwanegol a chreu/diogelu swyddi drwy brosiectau ynni adnewyddadwy a lleihau adnoddau.

 

25. Mae buddsoddi yng Nghymru yn arwain y ffordd yn y DU o ran ailgylchu. Rydym yn gwneud yn dda o ran cyrraedd ein targed o 70% erbyn 2025, diolch i ymrwymiad Awdurdodau Lleol a deiliaid tai i ailgylchu. Rwyf wedi diogelu buddsoddiadau cyfalaf yn y Rhaglen Newid Gydweithredol i sicrhau ein bod yn helpu awdurdodau lleol i gyrraedd y targedau ailgylchu hyn a lleihau costau.  

 

26. Yn ogystal, mae’r gyllideb Cyfalaf Gwastraff ar gyfer 2019/20 yn cynnwys buddsoddiad o £6.5m yng Nghronfa Buddsoddi Cyfalaf yr Economi Gylchol. Un o’r blaenoriaethau polisi allweddol ar gyfer gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at y nodau llesiant yw cynyddu elfennau ailddefnyddio ac ailgylchu y dull economi gylchol yng Nghymru. Mae’r gronfa arfaethedig ar gyfer datblygu nifer sylweddol o brosiectau cyfalaf bach (<£50,000) er mwyn cynorthwyo mentrau bach a chanolig i drosglwyddo i’r ‘Economi Gylchol’.  

 

 

Gwariant Ataliol

 

27. Mae ein buddsoddiad o dros £51m ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn hanfodol er mwyn lliniaru’r peryglon a lleihau’r tebygolrwydd o golledion economaidd difrifol yn sgil llifogydd. Mae gwaith ymchwil diweddar yn dangos bod buddsoddiad o £100m yn lleihau’r perygl i 7,000 o gartrefi a busnesau, yn diogelu dros 14,000 o swyddi ac yn creu dros 1,000 o swyddi. Yn ogystal, mae gwario arian ar waith cynnal a chadw’n lleihau’r perygl o fethiant asedau ac, o ganlyniad, yr angen i wario mwy ar atgyweirio neu adnewyddu.

 

28. O fewn y gyllideb Wastraff, mae cyfyngiad amser ar y cymorth a ddarperir drwy’r Rhaglen Newid Gydweithredol a bwriedir iddi arwain at gostau is ar gyfer gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu i Awdurdodau Lleol. Erbyn 2020, bydd yr holl awdurdodau lleol wedi cael cyfle i gael cymorth i leihau costau. Darperir y cymorth gan arbenigwyr technegol o Raglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau yng Nghymru. Mae’n rhoi cyngor ar bob agwedd ar wasanaeth rheoli gwastraff ac ailgylchu Awdurdodau Lleol, gan gynnwys cynwysyddion, cerbydau, storfeydd, cyfarpar, deunydd marchnata a chyfathrebu.

 

29. Mae buddsoddi mewn rhaglenni effeithiolrwydd ynni yn cael effaith sylweddol ar wariant ataliol. Mae gan Gymru 1.4 miliwn o gartrefi sy’n cynnwys amrywiaeth eang o fathau o dai ac amcangyfrifir bod 30% o aelwydydd yng Nghymru yn wynebu tlodi tanwydd. Effeithiolrwydd ynni yw’r dull mwyaf effeithiol sydd gennym o fewn ein pwerau i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Gall cartrefi cynhesach hefyd gael effaith gadarnhaol amlwg ar lesiant ac iechyd pobl.

 

30. Mae Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys y fenter Nyth a’r prosiectau Arbed, wedi gwella dros 27,000 o gartrefi ers 2012. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i leihau costau biliau ynni domestig ac yn cynyddu lefelau incwm gwario, sydd hefyd yn cyfrannu at gamau gweithredu ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â thlodi incwm.

 

31. Dylid ystyried Rhaglen Dileu TB Llywodraeth Cymru fel rhaglen “Gwario i Arbed” a fydd yn rhoi hwb i economi Cymru yn y pen draw. Y canlyniad yn y pen draw fydd dileu TB buchol yn llwyddiannus, a bydd hyn yn arwain at leihad yng ngwariant y Llywodraeth ar ddileu TB a thaliadau iawndal TB a’r costau cysylltiedig, yn ogystal â lleihad o ran y costau canlyniadol y mae’r diwydiant yn eu hwynebu, gan roi hwb i economi Cymru. 

 

32. Yn ogystal, rwyf wedi sicrhau bod system monitro a gwerthuso gadarn ar waith yn benodol er mwyn dangos gwerth am arian ar draws ein holl raglenni gwariant.

 

 

Brexit

 

33. Mae canlyniad refferendwm yr UE wedi ychwanegu lefel o ansicrwydd ynghylch adnoddau Cymru yn y dyfodol. Mae Cymru yn cael budd net o Gyllid Strwythurol yr UE gyda £650m o gyllid yr UE yn dod i Gymru bob blwyddyn. Mae’r arian hwn yn chwarae rôl hanfodol o ran cefnogi twf a swyddi ledled Cymru, gan helpu pobl i gael gwaith a hyfforddiant, cefnogi busnesau, hybu arloesedd a helpu i adfywio cymunedau.

 

34. Croesawaf gadarnhad y Canghellor y bydd y Trysorlys yn rhoi gwarant ar gyfer yr holl brosiectau strwythurol a buddsoddi a gymeradwywyd cyn i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hwn yn warant y buom yn galw amdano ers canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin.

 

35. Ar hyn o bryd, rydym yn parhau i fod yn Aelod Wladwriaeth o’r DU ac, o’r herwydd, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau ei bod yn cadw ei hymrwymiadau a’i rhwymedigaethau i’w Rhaglenni amrywiol a ffrydiau ariannu fel y cytunwyd â’r Comisiwn Ewropeaidd. Mae’r datganiad diweddar gan Lywodraeth y DU yn golygu y bydd y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn mis Mawrth 2019. Nes ein bod yn gadael yr UE yn derfynol, bydd cyllid fel taliadau (Colofn 1) PAC a’r Cynllun Datblygu Gwledig yn parhau i ddod i Gymru, sy’n golygu y gallwn fod yn eithaf sicr o’r cyllid tan 2020 a gallwn gymeradwyo prosiectau yr ydym wedi ymrwymo iddynt yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

36. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw gais a gymeradwyir cyn diwedd mis Tachwedd yn cael ei gyllido drwy gydol y prosiect - h.y. y tu hwnt i 2018 lle bo hynny’n briodol. Yn achos Glastir, rydym yn tybio bod hyn yn cynnwys cytundebau a gyflwynwyd a fyddai’n cael eu llofnodi’n gynnar yn 2017 i gyd-daro ag amserlenni’r UE; ar y sail honno, rydym wedi ailgychwyn trafodaehau terfynol gydag ymgeiswyr.

 

37. Mae ffenestri cynllun buddsoddi’r Cynllun Datblygu Gwledig a fydd ar agor dros yr ychydig fisoedd nesaf yn rhai ar gyfer prosiectau a fydd yn cwblhau eu gwariant cyn diwedd 2018 / dechrau 2109, ac felly byddant yn gweithredu yn ôl yr arfer. Gweithredir yr un trefniadau ar gyfer Cyllid Strwythurol, Cronfa Cydweithio Tiriogaethol Ewrop a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop.  

 

38. Y tu hwnt i’r dyddiad hwnnw, rydym wedi cael sicrwydd yn ddiweddar gan Drysorlys Ei Mawrhydi y bydd yn cyllido holl brosiectau’r Rhaglen Datblygu Gwledig sydd wedi’u cymeradwyo ar hyn o bryd neu y mae disgwyl iddynt gael eu cymeradwyo yn ystod hynt arferol y busnes cyn Datganiad yr Hydref (yn hwyr ym mis Tachwedd 2016). 

 

39. Mae’r gwaith yn parhau gyda Thrysorlys EM i gytuno ar beth fydd yn digwydd i’r cyllid nad yw wedi’i gynnwys yn y sicrwydd hwn fel ffenestri Glastir yn y dyfodol, oherwydd byddai’r rhain yn ymrwymo cyllid ymhell y tu hwnt i’n hymadawiad o’r UE.

 

40. Rwy’n ymwybodol o oblygiadau tymor hwy gadael yr UE ac mae’r angen i gymryd camau i baratoi ar gyfer hyn yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth. Rwyf wedi sefydlu tîm o swyddogion sy’n ymgysylltu â thimau polisi ar draws fy mhortffolio, yn ogystal â chyda rhanddeiliaid allanol.  

 

41. Rydym yn cydweithio i nodi’r prif faterion i Gymru y mae angen eu trafod mewn unrhyw drafodaethau âLlywodraeth y DU, yn ogystal â nodi risgiau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â gadael yr UE. Bydd y camau hyn yn helpu i nodi’r mesurau pontio y bydd angen inni eu gweithredu a chanolbwyntio arnynt.

 

42. Croesawaf ymateb ein diwydiant i gymryd rhan weithredol yn y broses hon a gallwn ddefnyddio’r wybodaeth sydd gennym i helpu i wneud penderfyniadau ystyrlon ar newidiadau i gyllidebau yn y dyfodol a fydd yn cefnogi’r anghenion a’r gofynion pontio.

 

 

Deddfwriaeth

 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

 

43. Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i wella sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau am lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Llywiwyd ein cynigion ar gyfer y gyllideb gan y dyletswyddau newydd a ddaw yn sgil y Ddeddf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i’w gweithredu’n llawn ac yn llwyddiannus.

 

44. Wrth galon y Ddeddf mae pum ffordd o weithio sydd wedi llywio ein dull cyffredinol o bennu dyraniadau cyllidebol yn y ffyrdd a ganlyn:

o  rydym wedi ystyried yr effeithiau hirdymor ac wedi cydbwyso hyn yn erbyn ein hanghenion tymor byr:

o  mae’r dull o atal problemau rhag codi neu waethygu wedi bod yn sail i’r penderfyniadau a wnawn:

o  wrth ddefnyddio dull integredig rydym wedi datblygu dealltwriaeth ehangach o’r pwysau trawsbynciol sy’n bodoli ar draws ein meysydd blaenoriaeth.

o  drwy gydweithio ac ymgysylltu’n barhaus rydym yn cael cyfraniad gwerthfawr i sylfaen y dystiolaeth er mwyn deall yr effaith a gaiff ein penderfyniadau.

o  Rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd ynghylch sut i wario ein cyllideb y flwyddyn nesaf, ond llywiwyd ein penderfyniadau gan ein hegwyddorion a’n gwerthoedd, sef tegwch, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol a buddsoddi mewn iechyd, yr economi a’n cymunedau yn yr hirdymor.

 

45. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) wedi ein cynorthwyo i wneud penderfyniadau ac rydym wedi adlewyrchu’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn ein penderfyniadau ar ein cynlluniau gwario.

 

46. Rwyf wedi dewis dechrau’r paratoadau ar gyfer y gyllideb drwy edrych ar y dystiolaeth o’r anghenion a’r pwysau yn ein meysydd blaenoriaeth – wrth Cymryd Cymry Ymlaen - Ffyniannus a Diogel; Iach ac yn Weithgar; Uchelgeisiol a Dysgu; Unedig a Chysylltiedig.

 

47. Adlewyrchir y dull hwn yn ein penderfyniadau i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus a’n rhaglenni atal a’u diogelu, ac i gael cydbwysedd rhwng ein hanghenion tymor byr a hirdymor.

 

48. Mae deunydd ein Cyllideb Ddrafft yn dangos sut rydym wedi ceisio adlewyrchu fframwaith y Ddeddf wrth nodi ein blaenoriaethau gwario. Adolygwyd tueddiadau presennol ac amcanestyniadau ar gyfer y dyfodol a’u heffaith bosibl yn y tymhorau byr, canolig a hir. Gwnaethom hyn i sicrhau, cyhyd ag y bo’n bosibl, nad yw ymatebion tymor byr yn cael effaith andwyol yn y tymor hwy.

 

 

Deddf Cynllunio (Cymru)

 

49. Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Deddf Cynllunio (Cymru) yn nodi effeithiau ariannol y broses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) yn gyffredinol. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi Memorandwm Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol i gyd-fynd â chwech offeryn statudol sy’n rhagnodi manylion y broses DNS, a chyflwynwyd y tranche cyntaf ar 4 Rhagfyr 2015.   

 

50. Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi bod y strwythur ffioedd DNS yn seiliedig ar fodel adennill costau llawn ac felly bwriedir iddo fod yn niwtral o ran cost.

 

51. Mae cost sefydlu cychwynnol cymharol fach o tua £14,000 yn 2016-17 ac, o gofio ei bod yn debygol mai Gweinidogion Cymru fydd yn penderfynu ar nifer y ceisiadau ar sail y weithdrefn galw i mewn neu apêl o dan y system bresennol, mae’n debygol y bydd arbedion cost gweithredu blynyddol o tua £24,000 ar gyfer Llywodraeth Cymru. 

 

52. Mae’r gyllideb ddrafft yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithredu’r rhannau sy’n weddill o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, yn enwedig cynhyrchu’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a chefnogi Awdurdodau Cynllunio Lleol i gyflwyno eu Cynlluniau Datblygu Strategol. Bydd unrhyw gostau cysylltiedig yn cael eu rheoli o fewn y gyllideb Cynllunio a Rheoleiddio, BEL 2250.

 

 

Deddf yr Amgylchedd (Cymru)

 

53. Aseswyd costau a manteision y Bil ac maent yn dangos bod y manteision yn gorbwyso’r costau, yn yr hirdymor.

 

54. Amcangyfrifwyd mai £291 fydd cyfanswm cost y Bil ac amcangyfrifir y bydd manteision o £359 (mesurwyd y naill a’r llall ar sail eu gwerth dros 10 mlynedd). Felly, bydd y Bil yn arwain at fantais net amcangyfrifedig o £68m (gwerth a gynllunnir dros 10 mlynedd).

 

55. Mae prif gostau Rhan 1 o’r Ddeddf yn ymwneud â Cyfoeth Naturiol Cymru a bydd yn costio oddeutu £3.41 i £4.51m dros 10 mlynedd (gwerth a gynllunnir). Mae’r costau hyn yn benodol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cynhyrchu Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) a datganiadau ardaloedd. 

 

56. Bydd Rhan 2 o’r Ddeddf yn sicrhau y gall Cymru leihau ei hallyriadau a throsglwyddo i ddeunyddiau carbon isel yn unol â rhwymedigaethau rhyngwladol, yr UE a chenedlaethol. Nid yw gweithredu’r targedau deddfwriaethol a’r fframwaith cyllideb garbon ynddynt ei hun yn cyflwyno costau ychwanegol i unrhyw gyrff allanol i Lywodraeth Cymru.

 

57. Mae Rhan 3 yn disodli’r drefn bresennol ar gyfer codi tâl am fagiau siopa yn Neddf Newid yn yr Hinsawdd y DU gyda darpariaethau newydd sydd bellach yn rhan o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru). Mae’r darpariaethau newydd yr un fath â’r rhai yn Neddf Newid yn yr Hinsawdd y DU, ar wahân i’r ffaith mae Gweinidogion Cymru yn gallu pennu isafswm tâl ar gyfer unrhyw fath o fag siopa. Yr unig gostau ar gyfer Llywodraeth Cymru a fydd yn codi o Ran 3 o’r Bil fydd y costau staff. Maer costau ar gyfer monitro a gorfodi’r drefn yn nwylo’r Awdurdodau Lleol a byddant oddeutu £0.39m (gwerth a gynllunnir dros 10 mlynedd).

 

58. Mae Rhan 4 o’r Ddeddf yn rhoi mwy o sicrwydd ar gyfer buddsoddi mewn ailgylchu, casglu gwastraff a’r seilwaith trin gwastraff, a fydd yn dod â manteision o ran yr economi, swyddi a’r amgylchedd.

 

59.Mae’r prosesau modelu yn amcangyfrif y bydd mantais ariannol net i Gymru o £69.5 miliwn, 2.5 miliwn o dunelli ychwanegol o ddeunyddiau ailgylchu a lleihad cyfatebol mewn carbon deuocsid o 2.1 miliwn o dunelli dros gyfnod o ddeng mlynedd – a fydd yn gwneud cyfraniad pwysig at dargedau allyriadau Cymru.

60. O ran y gwerth presennol, y costau a amcangyfrifir ar gyfer darpariaethau gwastraff y Ddeddf yw £159 miliwn dros 10 mlynedd gyda manteision o £218 miliwn. Bydd costau gweinyddu i Lywodraeth Cymru o £0.09m (gwerth a gynllunnir dros 10 mlynedd) yn deillio o Ran 4 o’r Bil. At hynny bydd costau gweinyddol o £0.03m (gwerth a gynllunnir dros 10 mlynedd (a chostau parhaus o £0.43m (gwerth a gynllunnir dros 10 mlynedd) a fydd yn dod i ran Cyfoeth Naturiol Cymru. 

 

61. Bydd y costau yn 2016/17 yn gostau a fydd yn gysylltiedig â datblygu’r rheoliadau hyn a byddant yn cael eu talu o’r BEL Gwastraff 2190.

 

62.Mae Rhan 6 o’r Ddeddf - Trwyddedu Morol - yn golygu y bydd y pwerau ffioedd a chodi tâl yn cael eu gweithredu drwy ddeddfwriaeth eilaidd a wneir gan Lywodraeth Cymru a’r ffioedd a adenillir gan Cyfoeth Naturiol Cymru i dalu am gost y gwasanaethau trwyddedu morol a ddarperir. 

 

Bil Cymru – ymestyn y swyddogaethau trwyddedu morol i’r ardal ar y môr.

 

63. Ar hyn o bryd, gall Cyfoeth Naturiol Cymru, drwy weithredu fel yr awdurdod trwyddedu ar ran Gweinidogion Cymru, yn yr ardal ar y môr adennill y costau sy’n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau am geisiadau am drwyddedau morol a gwasanaethau cysylltiedig. Bydd ffioedd a thaliadau newydd yn cael eu cyflwyno o fis Ebrill 2017 ac fe’u dyluniwyd i sicrhau bod holl gostau’r gwasanaethau trwyddedu morol a ddarperir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu hadennill yn llawn.

 

64. Bydd Bil Cymru yn datganoli’r swyddogaethau trwyddedu morol i Weinidogion Cymru yn yr ardal ar y môr. Bydd yr awdurdod trwyddedu yn yr ardal ar y môr yn gallu adennill costau drwy’r pwerau codi ffioedd presennol ac felly disgwylir y bydd y costau’n niwtral i Lywodraeth Cymru wrth ddarparu’r swyddogaethau newydd hyn.

 

 

Bil Cymru – ymestyn y swyddogaethau cadwraeth natur i’r ardal ar y môr

 

65. Drwy Fil Cymru, rydym yn ceisio ymestyn y swyddogaethau cadwraeth natur forol yn rhanbarth y glannau yng Nghymru (0-12 o filltiroedd morol) i gynnwys rhanbarth ar y môr Cymru (moroedd y tu hwnt i 12 o filltiroedd morol i’r llinell ganolrifol). Mae’r darpariaethau’n gwarchod cynefinoedd a rhywogaethau, gan gynnwys creu a rheoli ardaloedd morol a warchodir.

 

Bil Cymru - Datganoli pwerau ychwanegol ar gyfer rhoi caniatâd i ddatblygiadau ynni:

 

66. Mae Bil Cymru ar hyn o bryd yn cynnig datganoli pwerau ychwanegol mewn perthynas â rhoi caniatâd i ddatblygiadau ynni yng Nghymru. Bydd ein gwaith o ran negodi’r darpariaethau hyn gyda Llywodraeth y DU a’u gweithrediad ar ôl i’r Bil gael Cydsyniad Brenhinol yn cael ei ariannu drwy’r Costau Rhedeg Adrannau a Chyllidebau Rhaglenni cyfredol. Y bwriad polisi presennol yw y bydd costau i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol sy’n ymwneud â gweithredu’r trefniadau cydsynio sydd i’w cyflwyno yn cael eu hadennill drwy ffi ymgeisio.  

 

 

Dyraniadau Cyfoeth Naturiol Cymru

 

67. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn nifer o feysydd i sefydlu eu gwreiddiau ac, yn benodol, mae wedi dechrau datblygu Rheoli Adnoddau Naturiol fel ein dull craidd o gyflawni ei holl gyfrifoldebau.

 

68. Yn ogystal, mae ei gyfrifoldebau deddfwriaethol wedi golygu ei fod wedi gweithredu gofynion deddfwriaeth newydd, yn arbennig Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016.

 

69. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu rhaglen bwysig o Adolygiadau Meysydd Busnes i ystyried sut y maent wedi’u strwythuro er mwyn cyflawni eu blaenoriaethau. Fel y cyhoeddwyd yn ei Gynllun Busnes diweddar, hyd yn hyn mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi sicrhau arbedion i leihau costau ac wedi gwella cynhyrchiant mewn ffyrdd a fydd yn sicrhau mwy na £90m o fanteision. Mae llawer mwy o gyfleoedd i wella cynhyrchiant a lleihau costau fel rhan o’i gynlluniau trawsnewid.

 

70. Rwyf wedi ystyried yn ofalus y gyllideb a’r blaenoriaethau mewn perthynas â Cyfoeth Naturiol Cymru ac o ystyried yr heriau a’r pwysau trawsnewid y mae’n ei hwynebu, rwyf wedi penderfynu dyrannu £9.8m yn ychwanegol yn 2017/18. Bydd hyn yn golygu setliad arian parod gwastad ar gyfer ei refeniw Cymorth Grant, cynnydd o £7.8m mewn cyllidebau heb fod yn rhai arian parod i gwmpasu’r costau dibrisio uwch (a ariannwyd o gronfeydd wrth gefn), a chynnydd o £2m yn ei gyllideb cyfalaf ar gyfer 2017/18.  

 

71. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn wynebu cryn bwysau o ran cyfalaf, gan gynnwys P Ramorum, sef y broblem iechyd coed fwyaf difrifol yng Nghymru, ac mae’r nifer fwyaf o’r coed Llarwydd sydd wedi’u heintio ar ystâd coetir Llywodraeth Cymru. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn gwneud cryn gyfraniad at gynorthwyo Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael â’r pwysau hwn a phwysau cyfalaf eraill yn ystod 2017/18. 

 

Cydraddoldeb

 

72. Cynhaliwyd asesiadau effaith integredig eleni ar gyfer llinellau’r gyllideb sy’n dangos y newidiadau cyllideb mwyaf sylweddol o fewn portffolio Cyfoeth Naturiol Cymru. Ar ôl adolygu’r newidiadau allweddol uchod, cynhaliwyd Asesiadau Effaith Integredig ar gyfer nifer o raglenni allweddol yn cynnwys cydraddoldeb, y Gymraeg a Hawliau Plant. Mae asesiadau effaith integredig yn cael eu cynnwys wrth lunio polisïau yn ogystal â phenderfyniadau ar y gyllideb.

 

73. Mae canlyniadau’r asesiadau effaith yn dangos nad oes effaith anghymesur ar y grwpiau a nodwyd yn sgil y penderfyniadau cyllidebol hyn.

 

 

Y Gymraeg

 

74. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a’r Safonau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol inni wneud y tri pheth a ganlyn:

 

1.Ystyried effeithiau ein penderfyniadau polisi ar y Gymraeg (rhai cadarnhaol a negyddol)

 

2.Ystyried sut i gynyddu’r effeithiau cadarnhaol, lliniaru neu leihau’r effeithiau negyddol a manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.

 

3.Gofyn am sylwadau ar yr effeithiau ar y Gymraeg wrth ymgysylltu neu ymgynghori a cheisio barn siaradwyr Cymraeg a defnyddwyr yr iaith.

 

75. Fel rhan o’r broses Asesiadau Effaith Integredig, rydym wedi ystyried effaith ein penderfyniadau ar y gyllideb ar y Gymraeg, ac wedi nodi nad oes unrhyw effeithiau sylweddol ar y ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg.

 

 

Hawliau Plant

 

76. Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU, ac un o’r ychydig wledydd yn y byd, sydd wedi ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) o fewn y gyfraith ddomestig yn sgil Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. 

 

77. Gweithredir y dyletswyddau o fewn y Mesur mewn dau gam ac maent yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru i: 

 

·         roi ystyriaeth gytbwys i’r hawliau yn y CCUHP a’i brotocolau dewisol wrth lunio neu adolygu polisïau neu ddeddfwriaeth;

·         rhoi ystyriaeth gytbwys i’r hawliau yn y CCUHP wrth iddynt ddefnyddio eu holl bwerau neu ddyletswyddau cyfreithiol. 

 

78. Ar draws fy mhortffolio, mae’n ofynnol bod pob aelod o staff yn ystyried sut mae ei waith yn effeithio ar hawliau plant, ac mae’r broses hon wedi llywio’r Asesiad Effaith Integredig. Ni nodwyd unrhyw effeithiau sylweddol ar hawliau plant wrth bennu’r gyllideb hon.

 

 

Cynllun i Ddileu TB buchol

 

79. Rydym yn parhau i ddatblygu ein dull o ddileu TB yng Nghymru. Mae’r camau a gymerwyd hyd yn hyn wedi cael effaith gadarnhaol a dim ond 5% o’r buchesi yng Nghymru sy’n destun camau gweithredu yn sgil heintio. Mae nifer gweddol fach o fuchesi cronig yn parhau i fod yn anodd eu trin. Ar gyfer buchesi cronig o’r fath sydd wedi’u heintio, rwy’n cynnig cynlluniau dileu pwrpasol, wedi’u datblygu drwy ymgynghori â ffermwyr, milfeddygon preifat a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.   Bydd y cynlluniau hyn yn ceisio dileu’r haint, lleihau’r perygl y bydd y clefyd yn lledaenu’n ehangach er mwyn adfer daliadau i fod â statws Heb TB Swyddogol.

 

80. Mae ein dealltwriaeth o’r darlun o’r cyflwr ledled Cymru yn gwella bob blwyddyn a bydd ein polisïau’n cael eu teilwra er mwyn ystyried materion lleol drwy ddull rhanbarthol. Drwy bennu Ardaloedd TB Isel, Canolig ac Uchel, gellir rhoi mesurau priodol ar waith ym mhob ardal naill ai er mwyn gwarchod ardal rhag y cyflwr neu gryfhau mesurau cyfredol er mwyn lleihau’r achosion o’r cyflwr ymhellach. 

 

81. Mae’n bwysig bod y cyfeiriad a gymerwn yn addas i Gymru ac yn gost-effeithiol i’w ddarparu. Mae ein dull gweithredu strategol yn parhau i ystyried y gofynion tymor hwy sy’n gysylltiedig â llwyddo i fynd i’r afael â’r cyflwr. Yn y cyd-destun hwn, nid yw canlyniad Refferendwm yr UE yn effeithio ar ein hymrwymiad i ddileu TB buchol yng Nghymru.

 

82. Mae Cynllun y DU i Ddileu TB yn 2017 wedi’i gyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd. Ar hyn o bryd, rydym yn disgwyl am ganlyniadau ei drafodaethau. Mae cymeradwyo’r Cynlluniau i Ddileu TB yn denu lefel o gydariannu sydd fel arfer yn gyfanswm o rhwng £2-3m y flwyddyn, y gellir ei weld yn BEL Cyllideb Incwm yr UE ar gyfer TB 2269.

 

83. Mae mesurau i gryfhau ein dull o ddileu TB wedi’u cyflwyno fesul cam ers i’r Rhaglen ddechrau yn 2008. Mae mesurau i reoli gwartheg yn parhau i fod yn ganolog i’r Rhaglen a bydd hyn yn parhau.

 

84. O ran y gyllideb, rwy’n hyderus y bydd y cyllidebau presennol yn ddigonol ar gyfer parhau â’r cynlluniau i ddileu TB, ac, o’r herwydd, nid wyf wedi diwygio’r cyllidebau ers y flwyddyn flaenorol.

 

 

Gweithredu Deddf Tiroedd Comin 2006

 

85. Drwy Ddeddf Tiroedd Comin 2006, mae Llywodraeth Cymru yn anelu at ddiogelu amrywioldeb ac amrywiaeth tir comin yng Nghymru yn y dyfodol drwy symleiddio’r ddeddfwriaeth gymhleth sydd wedi’i ddiogelu yn y gorffennol.

 

86. Y flaenoriaeth nesaf yw cyflwyno’r adrannau hynny sy’n caniatáu i gamgymeriadau yn y cofrestri tir comin gael eu cywiro. Ar hyn o bryd, mae swyddogion yn gweithio ar weithredu adrannau 19, 22 ac Atodlen 2 yn unol â’r ymrwymiad Gweinidogol i ddod â’r darpariaethau hyn i rym erbyn diwedd mis Mawrth 2017. 

 

87. Mae gwaith yn parhau ar ddatblygu strwythur ffioedd ar gyfer ceisiadau a wneir o dan y darpariaethau sy’n weddill yn Rhan 1 (Cofrestru) o’r Ddeddf a chyflwynir hyn ochr yn ochr ag Adrannau 19, 22 ac Atodlen 2.

 

88. Ar ôl gweithredu adrannau 19 a 22, y flaenoriaeth fydd yr adrannau sy’n weddill o Ran 1 o’r Ddeddf a fydd yn sefydlu system gofrestru ddiwygiedig, newydd yng Nghymru. Mae Adran 25 o Ddeddf 2006 yn caniatáu i Gofrestr o Diroedd Comin gael ei chadw ar ffurf electronig. Mae hefyd yn darparu bod y rheoliadau hynny’n cynnwys proses i drosglwyddo’r gofrestr a’r mapiau papur presennol i fformat electronig. 

 

89. Er mwyn gwneud y mwyaf o’r manteision, rwy’n bwriadu gweithredu Cofrestri Electronig yng Nghymru a fydd yn dod â manteision sylweddol mewn perthynas â thir comin Cymru ac yn sefydlu system genedlaethol sy’n gyson a hygyrch 24 awr y dydd. 

 

90. Amcangyfrifir mai 3 blynedd fydd yr amserlen ar gyfer datblygu a chyflwyno’r Cofrestri Electronig, a bydd cyfnod hwy o 2 flynedd o gymorth yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol. Ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn adolygu’r fethodoleg gyflawni ac rwy’n rhagweld y bydd y broses o ddatblygu’r system yn dechrau yn ail hanner 2017, ar ôl cynnal proses gaffael briodol.

 

91. Mae Deddf 2006 hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer creu Cynghorau Tiroedd Comin, sefydlu cynlluniau ar gyfer rheoleiddio a rheoli tiroedd comin o fewn cyngor dosbarth neu Barc Cenedlaethol, a rhoi grym i fân ddiwygiadau a diddymiadau a rhai canlyniadol (A.50 - Cynlluniau o Dan Ddeddf Tiroedd Comin 1899, A.52 - Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol ac A.53 - Diddymiadau).

 

92. Argymhellir y dylid gweithredu’r adrannau hyn o Ddeddf 2006 drwy raglen dreigl o ddigwyddiadau ar ôl gweithredu’r meysydd blaenoriaeth, sef adrannau 19 a 22, ynghyd â'r rhannau sy’n weddill o’r cofrestri ar ffurf electronig.

 

93. Ar gyfer y camau gweithredu uchod, rwyf wedi dyrannu £433k o gyllid refeniw yn 2017/18 a £2.2m o gyllideb cyfalaf dros y pedair blynedd nesaf i ymrwymo i ddatblygu cofrestri’r Ddeddf Tir Comin.

 

 

Gweithredu Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru

 

94. Mae Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru yn nodi ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais yr ail gynllun gweithredu blynyddol o dan y Fframwaith, ynghyd ag adolygiad o’r flwyddyn 2015/16. Mae’r cynllun ar gyfer 2016/17 yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn a’r camau gweithredu allweddol i’w cyflawni y bu i Lywodraeth Cymru a’r Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru gytuno arnynt. Mae’r blaenoriaethau hyn yn cyfrannu at ganlyniadau strategol y cytunwyd arnynt ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid a hefyd y saith o nodau llesiant a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. 

 

95. Mae cwmpas y cynllun gweithredu hwn yn uchelgeisiol ac yn eang. Mae’n nodi’r hyn yr ydym yn ei wneud o ran ein rhwymedigaethau statudol, gan gynnwys gweithredu’r Rhaglen Dileu TB, ein trefniadau cynllunio wrth gefn os bydd achos difrifol o’r clefyd, y bwriad i gyflwyno unedau cwarantin a’n gwaith i ddiogelu iechyd gwenyn.

 

96. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru i godi ymwybyddiaeth o fioddiogelwch ac ymwrthedd i wrthficrobau; yn ymgysylltu â’r sector lles er mwyn adolygu codau ymarfer lles anifeiliaid; ac yn datblygu cynigion ar gyfer mynd i’r afael â chyflyrau economaidd fel dolur rhydd feirysol buchol a’r clafr.

 

 

Newid yn yr hinsawdd a chyllidebu carbon

 

97. Yn y pen draw, mae newid yn yr hinsawdd yn gysylltiedig â thwf a swyddi oherwydd mae’n effeithio ar ein ffyniant economaidd ac, yn hanfodol, mae’n cyflwyno cyfleoedd sylweddol ar gyfer y dyfodol ac yn benodol o ran twf gwyrdd.

 

98. Er na allwn ddarparu dyraniad penodol ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd, mae cyllideb wedi’i neilltuo ar gyfer cydgysylltu’r gweithgaredd ar yr hinsawdd yn ganolog o amgylch Llywodraeth Cymru. Mae’r adnodd canolog hwn yn cynnwys datblygu a monitro’r cyd-destun polisi cenedlaethol ar gyfer datgarboneiddio a meithrin cydnerthedd yr hinsawdd ac adrodd arno. Cyfanswm y dyraniad hwn yw £1.827m (BEL 2816).

 

99. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn nodi’r fframwaith cyllidebu carbon ar gyfer Cymru. Bydd angen sefydlu’r rheoliadau atodol fel y targedau interim a’r ddwy gyllideb garbon gyntaf erbyn diwedd 2018.

 

100.      Nes bod y cyllidebau carbon wedi’u pennu, ni allwn asesu’n fanwl y dyraniad ariannol yn y gyllideb ar gyfer y camau gweithredu a fydd yn helpu i leihau allyriadau. Fodd bynnag, gan fod ein holl weithredoedd gyda’i gilydd yn cael effaith ar newid yn yr hinsawdd, byddai hyn yn cael ei rannu ar draws holl weithgareddau fy mhortffolio.  

 

101.      Bydd y gwasanaeth Cymru Effeithlon a adolygwyd yn ddiweddar yn cefnogi’r gwaith o gyllidebu ar gyfer Twf Gwyrdd a Charbon. Bydd hyn yn cynnwys gwaith i wella sgiliau cadwyni cyflenwi hanfodol i’w galluogi i ddarparu gwasanaethau i Awdurdodau Lleol, prosiectau arfaethedig Twf Gwyrdd, RE:Fit a’r Gwasanaeth Ynni Lleol.

 

102.      Bydd Cymru Effeithlon yn cefnogi’r sector cyhoeddus i leihau ei ddefnydd o adnoddau drwy edrych ar ymyriadau effeithlonrwydd ar draws eu hystâd ac ystyried cyfleoedd mewn ffordd strategol, yn hytrach na chanolbwyntio ar un adeilad ar y tro mewn ymateb i geisiadau ad-hoc am gymorth.

 

 

Llifogydd a diogelu’r arfordir

 

Dyraniadau llifogydd

Atodiad 1

2016-17

£m

2017-18

 

£m

Refeniw

24.748*

22.448

Cyfalaf

30.467*

29.000

* Refeniw yn cynnwys £2.3m a ddygwyd ymlaen o 2015-16

* Cyfalaf yn cynnwys swm ychwanegol o £5.985m

 

103.      Mae tua 208,500 o eiddo yng Nghymru mewn perygl oherwydd afonydd a’r môr ac mae 163,000 mewn perygl oherwydd dŵr wyneb (mae rhai mewn perygl oherwydd sawl ffynhonnell). I leihau’r perygl, ceir 513k o asedau llifogydd (y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn berchen arnynt yn unig) sy’n dod â budd i dros 74,000 o eiddo. 

 

104.      Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, byddwn yn buddsoddi mewn mentrau a fydd yn lleihau’r perygl i o leiaf 3500 o dai a busnesau. Mae angen cynnal y lefel hon o fuddsoddiad er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd ar gyfer pobl Cymru.

 

105.      Rydym yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdodau Lleol i ddatblygu cronfa fuddsoddi ar gyfer y dyfodol ac rydym yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu dull o flaenoriaethu’r prosiectau hyn gan ddefnyddio’r Gofrestr Cymunedau mewn Perygl. Bydd hyn yn nodi lle mae’r angen mwyaf am ein buddsoddiadau.

 

106.      Mae gennym ymrwymiadau sy’n bodoli eisoes ar gyfer cynlluniau ar gyfer llifogydd a’r arfordir sydd eisoes wedi’u rhoi ar waith, gan gynnwys cynlluniau fel y rhai yn Llanelwy, Crindau, y Rhath, Trebefered a Phorthcawl. Rydym hefyd yn ariannu gwaith paratoadol ar gyfer y cam adeiladu o’r Rhaglen Rheoli Perygl Erydu Arfordirol. Bydd hyn yn buddsoddi £150 miliwn rhwng 2018 a 2021. 

 

 

Cynllun Gweithredu Strategol y Môr a Physgodfeydd a’r Rhaglen Pontio Morol

 

107.      Fel yr eglurais yn fy natganiad ysgrifenedig ar 1 Ebrill, rydym yn adeiladu ar y nodau yng Nghynllun Gweithredu Strategol y Môr a Physgodfeydd Cymru o fis Tachwedd 2013. Rydym wedi gwneud cryn gynnydd mewn perthynas â’r prif fentrau, ac mae nifer ohonynt yn cael eu cyflawni mewn partneriaeth â rhanddeiliaid drwy’r Rhaglen Newid Forol.

 

108.      Mae’r Rhaglen Pontio Morol yn cynnwys nifer o brosiectau sy’n flaenoriaethau allweddol i helpu i hwyluso gweithrediad effeithiol ein meysydd polisi sy’n flaenoriaeth. Mae amserlenni’r prosiectau yn cael eu hysgogi gan fwyaf gan ofynion yr UE a deddfwriaeth ddomestig.

 

109.      Mae canlyniad y refferendwm ar yr UE wedi cyflwyno her o ran cyflawni amcanion gwreiddiol y rhaglen, a bydd yn rhaid cynnal ymarfer ail-gwmpasu ar ei chyfer ar gyfer y cyfnod hyd 2020. Bydd angen cynnal asesiadau o’r effaith ar ysgogwyr gwreiddiol yr UE a’r risgiau o ran torri cyfreithiau’r UE yn sgil penderfyniad y DU i adael. Mae hwn yn gyfle i ail-lunio’r rhaglen ac ystyried pa adnoddau a chymorth ychwanegol sydd ar gael.

 

110.      Rwyf wedi dyrannu adnoddau ychwanegol i’r gyllideb refeniw Morol a Physgodfeydd (BEL 2870) sy’n cynnwys £200k yn ychwanegol tuag at ddatblygu Llongau Gorfodi Morol, a £68k tuag at gynyddu capasiti Cynllunio Morol. Mae’r cyllidebau cyfalaf hefyd wedi cynyddu i gwmpasu costau cyfalaf y Llongau Morol dros dair blynedd (2016-17, 2017-18 a 2018-19).

 

 

 

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig